
Pecyn Rhwydwaith Laku Neg: Cysylltu Creadigrwydd a Chydweithio
Mae cydweithio a chyfleoedd i gysylltu yn ein cyffroi.
Gyda'n Pecyn Rhwydwaith rydyn ni'n cynnal digwyddiadau rhithiol i roi llwyfan i'ch diddordebau cymdeithasol ac yn cynnig cyfleoedd creadigol i ddatblygu gwaith rhyngwladol ar y cyd.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer ceisiadau am gyllid a chyfeiriad yn y Deyrnas Unedig i'r rhai sy'n gweithio gyda ni yn rhyngwladol ac sy'n chwilio am gyllid yn y DU.
Manteision y Pecyn Rhwydwaith:
Cysylltiadau Byd-eang: Mynediad at gymuned fywiog o gydweithwyr rhyngwladol, ehangu eich rhwydwaith a chyfleoedd i ymgysylltu'n fyd-eang.
Digwyddiadau Rhithiol: Mae ein digwyddiadau rhithiol rhagorol yn llwyfan i arddangos eich diddordebau a'ch prosiectau cymdeithasol, a hynny'n caniatáu i chi gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Cefnogaeth gyda Cheisiadau am Gyllid: Gyda'n harweiniad ni, mae trin a thrafod y broses gymhleth o wneud cais am gyllid yn dod yn rhwyddach, a hynny'n eich gwneud yn fwy tebygol o lwyddo.
Presenoldeb yn y DU: I gydweithwyr rhyngwladol sy'n ceisio cyllid o'r DU, rydyn ni'n cynnig cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, sy'n eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth fwy eang o gyfleoedd cyllido.
Dewch i weithio gyda'n gilydd!
