Skip to content

Dewch i gwrdd â'r sylfaenwyr

Ni all neb

ond ni

dorri'r cadwynau

yn y meddwl

Ni yw
31

Mae diddordeb Laku Neg yn y llefydd ble gall pobl diaspora Affrica gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth sy'n atgyfnerthu hyder ac yn pwysleisio gwerth eu treftadaeth - gan gydnabod ein strategaethau, ein creadigaethau a'n perfformiadau o harddwch, gwrthsafiad a nerth. Mae'r gwaith hwn yn ymgais benodol i roi ffurf ar le o'r fath.

5
31
Dewch i Gwrdd â'n Sylfaenwyr
31
proffil o fenyw Adeola

Dyma Adéọlá

Yn wreiddiol o Trinidad, rwy'n artist-ymchwilydd sy'n byw yng Nghymru ers 2003. Mae gen i ddiddordeb mewn carnifal, masquerade a defodau, ynghyd â'r ffyrdd ry'n ni'n perfformio'n amryw rannau – y ffyrdd ry'n ni'n mynegi hunaniaeth a theimlad o berthyn yn y diaspora – drwy atgofion, ailddychmygu, a chreu llefydd cysegredig.
 

swigod â phortreadau o aelodau tîm Laku

Dyma Guriad ein Calon
 

Gweithiwyd ethos Laku Neg o weledigaeth ac egni naw o dduwiesau diaspora Affrica, y naw wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig. Mae ein gwreiddiau yn ymestyn yn ôl dros diroedd fel Cameroon, Nigeria, Trinidad, Bermuda, Grenada, Cymru a rhannau eraill o Affrica, Ewrop, Asia a thrioedd brodorion y Caribî. Mae gennym amrywiaeth o ddiddordebau a sgiliau, gan gynnwys: ffilm a fideo, ymgynghori, y gyfraith, hanes, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ffeministiaeth, cyfrifeg, celf, perfformio, dawns, coreograffi, carnifal, masquerade, defod, iechyd, defodau geni a marw ac ymchwil diwylliannol. 

 

Mae ein hymchwil yn fyd-eang, a nod y cysyniad o ddiaspora ydy cysylltu pobl greadigol sy'n gweithio mewn gwahanol leoliadau. Ry'n ni'n cydnabod bod heriau i'w cael yn y gwahaniaethau ar draws y diaspora Affricanaidd a chroesgyffyrddiadau â phobl o bob math o gefndir a diwylliant.

 

Gyda'n gilydd ry'n ni'n mynd ati i geisio grymuso a hynny'n ein symud tuag at amgylchedd mwy cyfiawn - gan greu cyfleoedd am gefnogaeth ac i gymryd rhan mewn trafodaethau ehangach o gylch cyfiawnder cymdeithasol.