Mae ein nerth
yn ein gallu i ddychmygu -
i wthio ffiniau yr hyn
y gallwn ei wneud
gyda'n gilydd

Yr iard yw'r gegin, y ddawns, y gayelle a'r gysegr. Ein man cychwyn yw ein gwerthoedd - nhw sy'n siapio sut gwnawn ein gwaith a'r gwaith a wnawn.

Mae ein nerth yn ein gallu i ddychmygu - i wthio ffiniau yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, i greu llefydd sy'n rhoi cynhaliaeth, i annog a hwyluso mynegiant creadigol ac i ddod ynghyd i gyd-greu dyfodol ffyniannus. Sefydlwyd Laku Neg i fod yn llwyfan ar gyfer cynnwys ar-lein i artistiaid o Affrica a diaspora Affrica ac i'r rhai sydd â diddordeb yng nghelfyddydau, diwylliant ac athroniaeth diaspora Affrica. Ein nod yw hwyluso cydweithio, rhannu gwybodaeth a rhoi llwyfan i'r bobl, y llefydd a'r cymunedau ble caiff gwybodaeth o'r fath ei saernïo.
Ry'n ni'n hwyluso cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth ac yn cyfrannu tuag at ôl-effeithiau pellgyrhaeddol drwy waith ymchwil, dogfennu, sgyrsiau a digwyddiadau. Mae LAKU NEG yn un o'r ychydig gwmnïau celfyddydol Du sy'n cael ei redeg gan fenywod yn niwydiant celfyddydau a chreadigol Cymru. Mae ein hymchwil yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, y Deyrnas Unedig a'r Caribî, ac i holl ofodau trawsleoliadol diaspora Affrica ar draws y byd.
Mae'r cysyniad o fyd o gylch yr Iwerydd yn mynnu bod rôl ganolog i hanes diasporaidd a hil-laddiad yn Affrica ac America, y De a'r Gogledd, yn nharddiad diwylliant modernrwydd.
Joseph Roach

Sefydlwyd Laku Neg i fod yn llwyfan ar gyfer cynnwys ar-lein i artistiaid o Affrica a diaspora Affrica gydweithio. Ry'n ni'n edrych i mewn ac allan. Ry'n ni'n cydnabod bod ein sylw'n cael ei gyfeirio'n uniongyrchol gan ein lleoliadau a'n symudiad rhwng llefydd.
Ry'n ni'n cydnabod ein bod ni, fel pobl y diaspora (hyd yn oed yn ail a thrydedd genhedlaeth), hefyd yn edrych y tu hwnt i'n hunain i gael cip arnom ni ein hunain. Mae ein haelwydydd yn lluosog, fel y mae ein hanesion a'n gwaddol yn ymestyn y tu hwnt i un lleoliad daearyddol.
Yr iard yw'r gegin, y ddawns, y gayelle a'r gysegr
Mae'r cwmni'n cychwyn o set benodol o werthoedd - nhw sy'n siapio sut gwnawn ein gwaith a'r gwaith a wnawn. Nhw sy'n siapio'r gofal a rown, ein datrysiadau a'n systemau creadigol (polisïau ac arferion), ein rhaglenni gwaith a'n ffordd o weithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar draws ein holl lwyfannau. Mae ein gwerthoedd wedi'u gwreiddio yng nghynhesrwydd ac yn y drysorfa o wybodaeth gynhyrchiol sy'n cael ei harfer bob dydd yng nghylch clòs iardiau cefn Affrica a'r Caribî:

Y Gayelle
Datganiad o werthoedd yn ymwneud â chyfarfyddiad. Mae hyn yn cynnwys gwneud lle i'r hunan dyfu drwy gydnabod cyfnodau o wrthdaro a chyfnodau pan fo diogelu'n bwysig. Mae'r gayelle yn troi yn drosiad ar gyfer y lle/fydd ble gellir cofleidio gwahaniaeth, ble gellir trafod gwrthdaro (yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang) a cheisio canfod datrysiad, a ble gellir cofleidio cyfluniadau ehangach o'n doniau a'n grym gwneud gyda'n gilydd. Cofleidio gwahaniaeth drwy ein siwrneiau a'n mannau creadigol.

Y Gysegr
Datganiad o werthoedd yn ymwneud â'n safbwynt moesegol. Ry'n ni'n deall ein hunain i fod yn ymgorfforiad o'r gorffennol ynghyd â'i barhad. Ry'n ni'n deall ein gwaith fel rhywbeth sy'n effeithio ar y genhedlaeth nesaf. Yn y goleuni hwnnw, ry'n ni'n anrhydeddu'r gorffennol, yn dilysu'r presennol ac yn dychmygu'r dyfodol, ac o wneud hynny ry'n ni'n cofleidio dirnadaeth o'n hunain fel rhan o fyd natur, gan ymdrechu i wireddu newid dyfnach, a gweithio tuag at fyd gwyrddach a thecach.