Yng nghelfyddyd y bobl
mae tarddiad
eu rhyddid. Claudia Jones
Ystyr Laku (Lakou) ydy 'iard' - y lle ble daw pobl ynghyd i gyd-greu, i rannu ac i sgwrsio. Mae Nèg yn golygu 'Du' yn iaith Kréyòl Haiti. Ry'n ni'n galw ein hunain yn Laku Neg fel symbol o'n hymgorfforiad o aelwyd a'r llefydd niferus sy'n gartref i ni, ac o weithredoedd grymuso a natur greadigol gwrthsafiad.
Re-membering
our bits and pieces...

Mae ein nerth yn ein gallu i ddychmygu - i wthio ffiniau yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd

Yr iard yw'r gegin, y ddawns, y gayelle a'r gysegr. Ein man cychwyn yw ein gwerthoedd - nhw sy'n siapio sut gwnawn ein gwaith a'r gwaith a wnawn.

Menywod o'r diaspora roddodd fywyd i Laku Neg. Mae ein gwreiddiau yn estyn yn ôl i diroedd fel Cameroon, Nigeria, Trinidad, Bermuda, Cymru a rhannau eraill o Affrica, Ewrop, Asia a thiroedd brodorion y Caribî.

Ein siwrnai hyd yma!

